Cilogramau
Uned:
- Màs
- Pwysau (mewn materion anwyddonol)
Defnydd byd-eang:
- Byd-eang
Disgrifiad:
Y cilogram yw'r uned sylfaenol o fàs yn y System Ryngwladol (SI) o Unedau, ac fe'i dderbynnir bob dydd fel uned o bwysau (y grym dysgyrchedd sy'n gweithredu ar unrhyw wrthrych).
Mae'r cilogram bron yn gyfwerth yn union ag un litr o ddŵr.
Diffiniad:
Diffinnir bod y kg yn gyfwerth â màs Prototeip Rhyngwladol y Cilogram (IPK), sef bloc aloi platinwm-iridiwm a gafodd ei wneud yn 1889 ac sydd wedi'i gadw yn y Biwro Pwysau a Mesuriadau Rhyngwladol yn Sèvres, Ffrainc.
Dyma'r unig uned yn y System Ryngwladol sydd wedi'i diffinio gan wrthrych ffisegol yn hytrach na nodwedd ffisegol sylfaenol a all gael ei hatgynhyrchu mewn labordai.
Tarddiad:
Am gyfnod byr, roedd y bedd (hefyd yn safon cyfeirio metelaidd) yn cael ei ddiffinio'n fil gram, nes iddo gael ei ddisodli gan y cilogram yn 1799.
Yn 1795 cyflwynwyd systemau mesur metrig yn Ffrainc a diffiniwyd y gram yn "bwysau absoliwt cyfaint dŵr pur sy'n gyfwerth â chanfed metr, ac ar dymhered toddi rhew".
Enwyd y cilogram (sy'n deillio o'r gair Groegeg chilioi [mil] a gramma [pwysyn bach] yn ffordd fwy ymarferol o fesur màs niferoedd mwy o faint mewn masnach, ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn uned sylfaenol màs ym mhob system mesur fetrig.
Roedd y System Ryngwladol o Unedau a gyhoeddwyd yn 1960 yn defnyddio'r cilogram yn uned syflaenol màs, ac mae wedi'i fabwysiadu gan bron bob gwlad ar y ddaear (gyda rhai eithriadau nodedig fel yr Unol Daleithiau).
Cyfeiriadau cyffredin:
- Mae cilogram yn pwyso tuag un botel litr o ddiod meddal.
- Gwerthir siwgr fel arfer fesul 1kg.
- Mae pêl-fasged arferol yn pwyso tua 1kg.
Cyd-destun ei ddefnydd:
Defnyddir y cilogram yn fyd-eang bob dydd fel uned i fesur màs a phwysau.
Hwn hefyd yw uned fas màs pob system fesur m.k.s, lle mae'r metr (m), y cilogram (k) a'r eiliad (s) yn cael eu defnyddio mewn perthynas â'i gilydd er mwyn diffinio cysyniadau eraill, fel y newton ar gyfer grym a'r pascal i fesur pwysedd.
Unedau cydrannol:
- 1kg = 1000 og (gramau)
Lluosrifau:
- 1000kg = 1 dunell fetrig (Yr Unol Daleithiau: tunell fetrig)