Metrau
Uned:
- Hyd / pellter
Defnydd byd-eang:
- Defnyddir y metr, fel rhan o'r system fetrig, i fesur pellter ledled y byd, y prif eithriad yw'r Unol Daleithiau lle y defnyddir y system imperial at y rhan fwyaf o ddibenion.
Disgrifiad:
Mae'r metr yn uned o hyd yn y system fetrig a'r uned sylfaenol o hyd yn y System o Unedau Rhyngwladol (SI).
Fel yr uned sylfaenol o hyd yn y System o Unedau Rhyngwladol neu systemau m.k.s. eraill (yn seiliedig ar fetrau, cilogramau ac eiliadau) defnyddir y metr i helpu i ddod o hyd i unedau eraill o fesur fel y newton ar gyfer grym.
Diffiniad:
Mae 1 m yn gyfwerth ag 1.0936 llath, neu 39.370 modfedd.
Ers 1983, mae'r metr wedi'i ddiffinio'n swyddogol fel hyd y llwybr y mae golau yn ei deithio mewn gwactod yn ystod cyfrwng amser 1/299,792,458 eiliad.
Tarddiad:
Roedd uned mesur ar sail degol wedi'i chynnig mor gynnar â'r 17eg ganrif, gyda'r enw metr yn deillio o'r geiriau Groegeg métron katholikón, sy'n golygu 'mesuriad cyffredinol'.
Un o'r diffiniadau cynnar o'r metr oedd "hyd pendil gyda hanner-gyfnod o un eiliad". Erbyn y 18fed ganrif, roedd diffiniad ar sail "deg miliynfed hyd meridian y Ddaear ar hyd un cwadrant" (y pellter o'r cyhydedd i Begwn y Gogledd) yn ennill ffafriaeth a hwn oedd y diffiniad a dderbyniwyd pan fabwysiadodd Ffrainc y system fetrig yn 1795.
Gweithgynhyrchwyd barrau metr prototeip - pres yn gyntaf, platinwm yn hwyrach ac yna aloi platinwm/iridiwm - fel safonau olynol o'r metr. Yn 1960, ailddffiniwyd y metr gan ddefnyddio tonfeddi ymbelydredd, cyn y diffiniad presennol sy'n cysylltu'r metr â chyflymder golau yn 1983.
Cyfeiriadau cyffredin:
- Mae taldra dyn cyfartalog tua 1.75m o hyd.
- Mae'r clwydi a ddefnyddir mewn ras glwydi 110m gemau'r Olympaidd yn 1.068m o uchder.
- Mae adeilad talaf y byd (yn 2012), y Burj Khalifa yn Dubai, yn 828m o uchder.
- Mae Adeilad yr Empire State yn Ninas Efrog Newydd yn 381m o uchder.
- Lled safonol cledrau rheilffordd (y pellter rhwng y rheiliau) yw 1.435m.
Unedau cydrannol:
- 1/100 m = un centimetr
- 1/1,000 m = un milimetr
- Gweler hefyd micrometr, nanometr, picometr, ffemtometr, atometr, septometr ac ioctometr.
Lluosrifau:
- Y lluosrif a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw'r cilometr (1,000m), ond mae nifer o luosrifau Rhyngwladol eraill o'r metr, gan gynnwys decametr (10 m), hectometr (100 m) a megametr (un filiwn metr).
- Lluosrif Rhyngwladol mwyaf y metr yw'r yottametr, (1,000,000,000,000,000,000,000,000 metr).