Centimetrau
Uned:
- Hyd / pellter
Defnydd byd-eang:
- Defnyddir y centimetr yn fyd-eang i fesur hyd. Mae rhai eithriadau, yr Unol Daleithiau yw un wlad nodedig, sy'n dal i ddefnyddio system Arferol yr Unol Daleithiau (yn debyg i imperial) yn bennaf.
Diffiniad:
Uned o hyd yn y system fetrig yw'r centimetr, sy'n gyfwerth â chanfed metr.
Mae 1cm yn gyfwerth â 0.39370 modfedd.
Tarddiad:
Cafodd y system pwyso a mesur fetrig neu ddegol ei diffinio a'i mabwysiadu yn Ffrainc yn 1795. Gan ddefnyddio'r metr fel sail i fesur hyd, mae'r system bellach yn cael ei defnyddio'n swyddogol ar draws y byd.
Cyfeiriadau cyffredin:
- Mae nicel yr Unol Daleithiau (5 sent) tua 2cm mewn diametr.
- Mae cornbilen llygad bod dynol tua 1.15cm (11.5mm) mewn diametr.
- Mae un droedfedd imperial yn gyfwerth â thua 30.5cm.
Cyd-destun ei ddefnydd:
Defnyddir y centimetr fel uned fesur bob dydd mewn gwledydd sydd wedi mabwysiadu'r System Ryngwladol o Unedau, mewn sefyllfaoedd a chymwysiadau lle yr ystyrir yn gyffredinol nad yw'n bwysig nodi ffracsiynau centimetr.
Bydd cymwysiadau y mae angen mwy o gywirdeb arnynt, fel peirianneg a dylunio, yn nodi pellter yn gyffredinol drwy ddefnyddio naill ai milimetrau neu ffracsiynau degol metr.
Unedau cydrannol:
- 1 cm = 10 omm (milimetrau)
Lluosrifau: