Milimetrau
Uned:
- Hyd
Defnydd byd-eang:
- Defnyddir y milimetr, fel rhan o'r system fetrig, i fesur hyd ledled y byd. Y prif eithriad yw'r Unol Daleithiau, lle y defnyddir y system imperial o hyd at y rhan fwyaf o ddibenion.
Diffiniad:
Mae'r milimetr yn uned o hyd yn y system fetrig, sy'n gyfwerth â milfed metr (uned sylfaenol Rhynwgladol Safonol o hyd).
Cyfeiriadau cyffredin:
- Mae 25.4 milimetr mewn un fodfedd.
- Mae pen pin tua 2mm mewn diametr.
- Mae CD tua 1.22mm o drwch.
- Mae 16.5mm o bellter rhwng rheiliau rheilffyrdd model cledrau 00.
- Bydd clipwyr gwallt gradd i yn torri gwallt i tua 3mm o hyd (mae gradd 2 yn torri i 6mm, gradd 3 i 9mm ac ati)
Cyd-destun ei ddefnydd:
Defnyddir milimetrau fel mesuriad safonol o hyd mewn pob math o gymhwysiadau peirianyddol a masnachol lle bo angen mwy o fanylder nag i'r centimetr agosaf.
Lle bo angen mesur neu fynegi hyd yn oed fwy o fanylder, defnyddir ffracsiynau milimetr i dri lle degol.
Defnyddir milimetrau fel arfer i ddisgrifio calibr arfau bach a'r arfau a ddefnyddir i'w tanio, er enghraifft reiffl ymosod Uzi 9 mm.
Unedau cydrannol:
- 1/1,000 mm = un micrometr
- 1/1,000,000 mm = un nanometr
- Mae unedau sy'n mynd yn raddol llai yn cynnwys picometr, ffemtometr, atometr, septometr ac ioctometr.
Lluosrifau:
- Mae nifer o unedau i fynegi lluosrifau'r milimetr, ond mae'r rhain wedi'u diffinio gan eu perthynas â'r metr (yr uned sylfaenol Ryngwladol o hyd), yn hytrach na'r milimetr.
- 10 mm = 1 centimetr (cm)
- 1000mm = 1 metr (m)