Mae Fahrenheit yn raddfa tymheredd thermodynamig, lle mai 32 gradd Fahrenheit (°F) yw rhewbwynt dŵr a lle mai 212°F yw berwbwynt dŵr (mewn pwysedd atmosfferig safonol). Mae hyn yn golygu bod berwbwynt a rhewbwynt dŵr yn 180 gradd o'i gilydd. Felly, mae gradd ar raddfa Fahrenheit yn 1/180 o'r cyfrwng rhwng rhewbwynt a berwbwynt dŵr. Diffinnir sero absoliwt yn -459.67°F.
Mae gwahaniaeth tymheredd o 1°F yn gyfwerth â gwahaniaeth tymheredd o 0.556°C.
Mae Rømer yn raddfa dymheredd a enwyd ar ôl y seryddwr Ole Christensen Rømer o Ddenmarc, a'i cynigiodd yn 1701. Yn y raddfa hon, cafodd sero ei osod yn wreiddiol gan ddefnyddio heli wedi'i rewi. Diffiniwyd berwbwynt dŵr yn 60 gradd. Yna welodd Rømer fod rhewbwynt dŵr pur tua wythfed ran o'r ffordd (tua 7.5 gradd) rhwng y ddau bwynt hyn, felly ailddiffiniodd y pwynt is i fod yn rhewbwynt dŵr ar 7.5 gradd yn union. Dysgodd dyfeisiwr graddfa Fahrenheit, Daniel Gabriel Fahrenheit, am waith Rømer ac aeth ati i gynyddu nifer y rhaniadau â phedwar ffactor gan sefydlu'r hyn a elwir heddiw yn raddfa Fahrenheit.