Celsius
Er iddi gael ei diffinio'n gychwynnol gan rewbwynt dŵr (ac yn ddiweddarach gan doddbwynt rhew), erbyn hyn mae graddfa Celsius yn raddfa ddeilliadol yn swyddogol, wedi'i diffinio mewn perthynas â graddfa tymheredd Kelvin.
Erbyn hyn mae sero ar raddfa Celsius (0 °C) wedi'i ddiffinio'n gyfwerth â 273.15 K, gyda gwahaniaeth o 1 gradd C mewn tymheredd sy'n gyfwerth â gwahaniaeth o 1 K, sy'n golygu bod maint yr uned yn y ddwy raddfa yr un peth. Mae hyn yn golygu bod 100 °C, a gafodd ei diffinio'n flaenorol fel berwbwynt dŵr bellach wedi'i diffinio'n gyfwerth â 373.15 K.
System gyfrwng yw graddfa Celsius, nid system gymhareb, sy'n golygu ei bod yn dilyn raddfa berthynol ond nid graddfa absoliwt. Gellir gweld hyn am fod y cyfrwng tymheredd rhwng 20 °C a 30 °C yr un peth â rhwng 30 °C a 40 °C, ond nid oes gan 40 °C ddwywaith yr ynni gwres aer ag 20 °C.
Mae gwahaniaeth tymheredd o 1 gradd C yn gyfwerth â gwahaniaeth tymheredd o 1.8°F.