Cilogramau
Diffinnir bod y kg yn gyfwerth â màs Prototeip Rhyngwladol y Cilogram (IPK), sef bloc aloi platinwm-iridiwm a gafodd ei wneud yn 1889 ac sydd wedi'i gadw yn y Biwro Pwysau a Mesuriadau Rhyngwladol yn Sèvres, Ffrainc.
Dyma'r unig uned yn y System Ryngwladol sydd wedi'i diffinio gan wrthrych ffisegol yn hytrach na nodwedd ffisegol sylfaenol a all gael ei hatgynhyrchu mewn labordai.